OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 1462 (Cy. 143)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Ymgynghori ar Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mewnosodwyd adrannau 32A i 32C i Ddeddf Addysg 2002 gan adran 42 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 ac mae’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â phennu dyddiadau tymhorau ysgol a sesiynau ysgol ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Mae adran 32B yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol sefydledig i benderfynu ar y dyddiadau tymhorau ysgol hynny a bennir yn y cyfarwyddyd.
Cyn gwneud unrhyw gyfarwyddyd o’r fath mae adran 32B(3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal unrhyw ymgynghoriad sy’n briodol yn eu barn hwy. Mae adran 32AB(4) yn darparu ymhellach y caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaeth ynghylch yr ymgynghoriad hwnnw y maent yn ei hystyried yn briodol.
Yn unol â hynny, mae’r Rheoliadau hyn yn nodi cyfnod a dull yr ymgynghoriad gan gynnwys pa bryd nad oes angen ymgynghoriad o bosibl (rheoliad 3 a’r Atodlen) ac â phwy y mae rhaid ymgynghori (rheoliad 4).
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 1462 (Cy. 143)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Ymgynghori ar Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014
Gwnaed 4 Mehefin 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Mehefin 2014
Yn dod i rym 2 Medi 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 32B a 210 o Ddeddf Addysg 2002([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ymgynghori ar
Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 2 Medi
2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “awdurdod esgobaethol priodol” yr un ystyr ag “appropriate diocesan authority” yn adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “corff crefyddol priodol” (“appropriate religious body”) yw—
(a) yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig, neu ysgol arfaethedig o’r fath, yr awdurdod esgobaethol priodol, a
(b) yn achos ysgolion eraill neu ysgolion arfaethedig eraill, y corff sy’n cynrychioli’r grefydd neu’r enwad crefyddol a nodir, neu y bwriedir iddo gael ei nodi, mewn perthynas â’r ysgol mewn gorchymyn o dan adran 69(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.
Ymgynghori
3.—(1)(1) Rhaid i gyfnod a dull ymgynghori Gweinidogion Cymru fod yn
unol â’r tabl yn yr Atodlen.
(2) Yn achos amheuaeth o ran y dyddiad y cafodd Gweinidogion Cymru hysbysiad am y digwyddiad neu’r amgylchiadau a arweiniodd at y cyfarwyddyd tybir mai’r dyddiad yw’r dyddiad hwnnw y penderfynir yn rhesymol arno gan Weinidogion Cymru.
(3) Pan fo rhes 5 o’r tabl yn yr Atodlen yn gymwys caiff Gweinidogion Cymru benderfynu na fydd ymgynghoriad o’r fath yn cael ei gynnal.
Personau i ymgynghori â hwy
4.—(1)(1) Ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys rhaid i Weinidogion
Cymru ymgynghori ar y cyfarwyddyd mewn drafft â’r
canlynol—
(a) pob awdurdod lleol yng Nghymru;
(b) cyrff llywodraethu pob ysgol wirfoddol a gynorthwyir a phob ysgol sefydledig yng Nghymru;
(c) cyrff llywodraethu 10% o bob ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir ac ysgol feithrin a gynhelir;
(d) Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru;
(e) Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru;
(f) y corff crefyddol priodol ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru ag iddi gymeriad crefyddol;
(g) Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig;
(h) Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;
(i) Comisiynydd Plant Cymru; a
(j) pob corff sy’n cynrychioli buddiannau aelodau o staff ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cynnal ymgynghoriad yn unol â rhes 5 o’r tabl yn yr Atodlen rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn eu hystyried yn briodol.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
4 Mehefin 2014
YR ATODLEN Rheoliad 3
Cyfnod a dull ymgynghori
Y cyfnod hysbysu a gaiff Gweinidogion Cymru am y dyddiadau tymhorau yr effeithir arnynt gan y digwyddiadau neu’r amgylchiadau sy’n arwain at y cyfarwyddyd |
Y cyfnod ymgynghori ar y cyfarwyddyd |
Y dull ymgynghori ar y cyfarwyddyd |
1 flwyddyn neu’n fwy |
O leiaf 12 wythnos |
Drwy gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru a thrwy unrhyw ffyrdd eraill, os oes rhai, y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol |
1 flwyddyn neu’n llai ond yn fwy na 6 mis |
O leiaf 6 wythnos |
Drwy gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru |
6 mis neu’n llai ond yn fwy na 3 mis |
O leiaf 3 wythnos |
Drwy gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru |
3 mis neu’n llai ond yn fwy na 4 wythnos |
O leiaf 1 wythnos |
Drwy gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru |
4 wythnos neu’n llai |
Unrhyw gyfnod ymgynghori, os oes un, y mae Gweinidogion Cymru yn rhesymol yn ei ystyried yn briodol |
Unrhyw ddull ymgynghori, os oes un, y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol |
([1]) 2002 p. 32. Mewnosodwyd adran 32B gan adran 42 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (dccc 5). Diwygiwyd adran 210(7) gan adran 21(3)(c)(i) a (ii) o Fesur Teithio gan Deithwyr (Cymru) 2008 (mccc 2). Trosglwyddwyd swyddogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 210 i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).